Rhestr 1905


Ffurflenni tafarndai ym mhob Adran Sesiwn Fach yn sir Aberteifi. Ionawr 1905. (Archifdy Ceredigion, Aberystwyth, argraffwyd TPS/1/1).
Mwy na thebyg bod hon yn rhestr gyflawn o bob safle sydd wedi’i drwyddedu i werthu alcohol yn y sir, a roddwyd at ei gilydd i gynorthwyo Pwyllgor Trwyddedu’r Sir wrth benderfynu pa dafarndai dylid eu cau dan ddeddf 1904. Mae’n cynnwys 305 cofnod, y mae 14 ohonynt yn siopau diodydd.
Mae’n cofnodi:
Enw’r safle
Plwyf / lle
Enw’r Daliwr Trwydded ac a ydyw’n berchennog neu’n denant
Enw a chyfeiriad y perchennog
Rhydd neu glwm (i fragdy), os ydy, enw’r bragdy
Trwydded lawn neu gwrw’n unig (dim ond Farmer’s Llanfihangel y Creuddyn oedd yn gwerthu cwrw yn unig); neu win a gwirodydd (siopau a siopau diodydd fel rheol)
Nifer y diwrnodau y rhoddwyd y drwydded – 6 (ac eithrio dydd Sul) neu 7
Mae colofnau eraill (y mae llawer ohonynt yn wag) yn cynnwys:
Nifer y trosglwyddiadau [trwyddedau] yn ystod y pum mlynedd diwethaf
Trosglwyddiadau Dyddiad y trosglwyddiad diwethaf
llety nifer yr ystafelloedd lawr llofft
llety nifer yr ystafelloedd gwely
llety stablau ar gyfer ceffylau
oes lluniaeth ar wahân i ddiodydd meddwol yn cael eu cyflenwi?
nifer y mynedfeydd
pellter o’r tafarndy agosaf
asesiadau cyfraith wael (mewn £ S C)
asesiadau gwerth blynyddol y safle fesul atodlen 1 y ddeddf trwyddedu, 1904
Achosion yn erbyn y tŷ dan y deddfau trwyddedu am y 5 mlynedd diwethaf
natur y drosedd
dyddiad y gwrandawiad
canlyniad
Trefniadau glanweithdra
A ddarperir Troethle?
A ddarperir cwpwrdd?
Ydy’r strwythur, yn fewnol ac yn allanol, yn addas ar gyfer safle trwyddedig?
Troseddau
gwerthu chwisgi gwan
gwerthu diod i rywun meddw
dioddef chwarae cardiau am arian
gwerthu ar y Sul
gwerthu yn ystod oriau gwaharddedig
gwerthu cwrw i blentyn dan 14 oed