Ynglŷn â’r brosiect

Bydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cofnodion ar gyfer:

pob tafarndy, tafarn, tŷ tafarn, gwesty, siop gwrw, ystafell lluniaeth gorsaf drenau a safle arall yn Sir Aberteifi sydd wedi’u trwyddedu (neu a ddylai fod wedi’u trwyddedu) i werthu alcohol.
rhywfaint o wybodaeth am dafarnwyr a rheolwyr tai tafarn, tafarnau a gwestai.
Safleoedd dirwestol.
ambell i safle dros y ffin yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd sydd wedi’u cynnwys oherwydd (1) roedd rhan o Landudoch a Poppit, i gyfeiriad y gorllewin o Aberteifi ac afon Teifi, yn rhan o Geredigion o 1832 i 2002; (2) roeddent yn gwasanaethu pobl Ceredigion, yn enwedig pan arhosodd y sir yn ‘sych’ ar ôl i’r siroedd cyfagos bleidleisio o blaid bod yn ‘wlyb’ yn ystod y 1980au.
Nid yw gwerthwyr Gwin a Gwirodydd (y cyfeirir atynt yn aml fel Tafarnwyr) ac Adwerthwyr Cwrw wedi’u cynnwys mewn safleoedd heb eu henwi eto.

Mae’r rhestr yn cynnwys bron i 900 o safleoedd, ond mae’n annhebygol iawn y bu mwy na 300 ar agor ar unrhyw adeg unigol. Mae gan y rhestr fwyaf dibynadwy, a luniwyd mwy na thebyg i bwyllgor trwyddedu’r Sir ym 1905 (the 1905 list), 305 o safleoedd trwyddedig (gan gynnwys 14 siop gwin a siopau diodydd mewn groser trwyddedig). Defnyddiwyd hon fel dangosydd o ran a oedd tafarn ar agor ai peidio ym 1905: os nad oes cyfeiriad at restr 1905 mewn cofnod tafarndai, mwy na thebyg nad oedd ar agor ar y pryd.

Fel rheol, nid yw’r safle hwn yn nodi ydy tafarn ar agor ai peidio ar hyn o bryd. Os ydych chi am gael gwybod, edrychwch ar wefannau eraill fel Pubsgalore, sy’n dibynnu ar berchnogion tafarndai a’r cyhoedd i gadw’r safle’n gyfoes. Gweler DOLENNI CYSWLLT