Sut gallwch gyfrannu


Hoffech chi wneud rhywfaint o ymchwil i’ch gwestai lleol neu gyfrannu cof neu hanesyn? Gallwn eich helpu i ddechrau arni a’ch pwyntio at rai ffynonellau gwybodaeth posibl. Mae llawer i’w darganfod mewn papurau newydd lleol, y mae llawer ohonynt wedi’u digideiddio ar gyfer y blynyddoedd 1800-1910 ac 1914-1919.

Mae gan lawer o’r tafarndai a fodolai yng Ngheredigion dudalen ar y safle’n barod, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd am y rhan fwyaf ohonynt. Mae llawer o’r wybodaeth sydd eisoes ar y safle o ddogfennau’r 19eg ganrif. Oes gennych atgofion o’r 20fed ganrif
dawnsfeydd, partïon, digwyddiadau Nos Galan, carnifalau;
priodasau, te angladd;
arwerthiannau;
ymgyrchoedd, digwyddiad codi arian;
cystadlaethau;
Cyfarfodydd swyddogol (Cyngor y Plwyf, ymgyrchoedd)
grwpiau cymunedol: (Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Ffermwyr Ifainc, Hanes Lleol)

Oedd well gennych chi a’ch ffrindiau un tafarndy mewn pentref i un arall – os felly, pam?

Gallwch helpu trwy gofnodi’r canlynol am dafarndai yn eich ardal:
ble yn union mae’r/oedd y tafarndy trwy ganfod ei gyfeirnod grid cenedlaethol ar y map digidol cysylltiedig
pryd y gwnaeth agor a chau (os yn hysbys)
unrhyw fapiau sydd eu huwchlwytho’n barod, sy’n dangos y tafarndy
unrhyw enwau eraill oedd ganddo (gan gynnwys enwau lleol yn hytrach nag enwau swyddogol)
unrhyw straeon, digwyddiadau, gweithgareddau cysylltiedig
unrhyw bobl gysylltiedig: cymeriadau, ymwelwyr enwog,
sut defnyddiwyd y tafarndy ar gyfer cyfarfodydd swyddogol, grwpiau cymdeithasol ac ati.
enwau’r perchnogion, dalwyr trwydded, landlordiaid, landlordesau ac ati
unrhyw ffotograffau o ddigwyddiadau, yn enwedig y rhai sy’n dangos y tu mewn.

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wallau yn y wybodaeth ar y safle? – rhowch wybod i ni. Er enghraifft, mwy na thebyg bod rhai tafarndai wedi’u rhestru fwy nag unwaith, dan enwau lleoedd gwahanol; gallai un fod yn enw pentref neu’n anheddiad, y llall yn enw rhanbarthol neu’n blwyf. Gallai hyn gael ei ddatrys ar ôl canfod mwy o ffurflenni cyfeiriaduron a chyfrifiad: bydd enwau’r dalwyr trwydded yn dangos mai’r un safleoedd neu safleoedd gwahanol ydyn nhw.

Ffynonellau pellach:
Papurau newydd lleol (ar-lein)
Archifau yn Archifdy Ceredigion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sut bynnag yr hoffech helpu, cysylltwch â ni yn