Disgrifiadau a darluniau o dai tafarn a thafarndai


Roedd twristiaid y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn aml yn disgrifio ac yn achlysurol yn darlunio tai tafarn Cymru yr oedden nhw’n aros ynddynt ond prin yr oeddent yn ymweld â thafarndai: o ganlyniad ychydig iawn yw’r disgrifiadau neu’r darluniau cyfoes ohonynt. Yn ystod yr 20fed ganrif, roedd ffotograffau’n cael eu tynnu o ochr fewnol tafarndai’n achlysurol oherwydd bod digwyddiad arbennig megis ymddeoliad landlord neu landlordes; cystadleuaeth (fel gornest ddartiau) neu wledd briodas.