Enwau Lleoedd Ceredigion


Mae’r rhestr o enwau lleoedd ar y gronfa ddata’n cynnwys pob lle y mae tafarndai’n bodoli neu wedi bodoli, gan gynnwys aneddiadau, pentrefi, trefi, plwyfi a siroedd.
Yn y rhestr, ychwanegwyd yr ôl-ddodiaid canlynol i wahaniaethu pentrefi a phlwyfi neu ardaloedd gyda’r un enwau:
(p) ar gyfer plwyf
(cc) ar gyfer Cyngor Cymuned
(t) ar gyfer Trefgordd
Fel rheol, cyfeiriad y tafarndy yn y gronfa ddata yw’r dref neu’r pentref y mae wedi’i leoli ynddi/ynddo, ond weithiau dim ond enw’r plwyf neu’r ardal ydyw oherwydd dyna’r cyfan a restrwyd mewn Cyfeiriaduron Masnach neu ddogfennau eraill.

Problemau gydag enwau lleoedd
mae rhai tafarnau mewn lle heb enw (e.e. y rhai ar brif ffyrdd rhwng trefi).
mae gan rai tafarnau gyfeiriad post pentref mewn plwyf gerllaw, neu hyd yn oed mewn sir gerllaw;
mae ffiniau plwyfi a siroedd wedi newid;
mae plwyfi newydd wedi’u creu;
mae enwau lleoedd wedi newid;
cafodd enwau lleoedd eu camsillafu neu nid oes modd eu hadnabod.

Orgraff
Cymraeg yw enwau’r rhan fwyaf o leoedd yng Ngheredigion, ond yn aml, mae mwy nag un ffordd o’u cofnodi, gyda neu heb gysylltnodau, e.e. Aberarth; Aber-arth. At ei gilydd, defnyddir enwau lleoedd heb gysylltnodau mewn llawer o ddogfennau a mapiau swyddogol.
Mae enwau amgen gyda chysylltnodau wedi’u cofnodi ar y safle hwn os ymddangosant yn.
Alternative names with hyphens have been recorded on this site if they appear in A Gazetteer of Welsh Place-Names / Rhestr o Enwau Lleoedd (ed / gol. Elwyn Davies, UWP / GPC, 1975).

Ychydig iawn o leoedd sydd ag enwau Cymraeg a Saesneg amlwg (e.e. Cardigan / Aberteifi), ac mae sawl un wedi’u camsillafu yn y gorffennol (Abersytwyth / Aberystwith).
Dylai fod yn bosibl chwilio am leoedd dan unrhyw un o’r fersiynau safonol.