Explore the database

The database currently contains details of 1002 pubs and other premises, 256 places and 209 people. There are also 329 photos and postcards, 80 pub signs, 672 newspaper articles, 253 maps and 104 documents. About 134 pubs are still open.

Use the options below to search the database.

N.B. Some pubs do not appear on the maps as we do not have a definite location for them.

Quick search

    Search for:
    Browse the database     Advanced search

Obituary Thomas Jones / Ysgrif goffa Thomas Jones


Source: Y Tyst a\'r Dydd 20/06/1873       Date: 1873
Copyright:       Type: Newspaper
Description: Thomas Jones, innkeeper, died aged 84.

Transcript:
Mai 15, yn 84 mlwydd oed, Thomas Jones, Red Cow, Adpar, Emlyn. Ar y dydd Sadwrn, canlynol bu ei gladdedigaeth. Wrth y ty, gweinyddwyd trwy ddarllen, gweddio, a phregethu gan y Parch. B. Thomas, Graig, ac hebryngwyd ei farwol ran, mewn elor-gerbyd, i fynwent Llangunllo. Yr oedd Thomas Jones yn aelod o eglwys y Graig, Castellnewydd, ac fel dyn a Christion yr oedd o gymeriad tra diargyhoedd. Edrychid i fyny ato gan drigolion y dref yn gyffredinol fel dyn cywir iawn, gonest, a chymwynasgar dros ben. Cwynir gan lawer ei golli am hyn. Cadwai ei dy, fel tafarnwr, yn drefnus. Pan roddai ef orchymyn, nid oedd neb a omeddai ufuddhau, canys gwyddent nad gair ofer ydoedd. Nid oedd un amser yn cellwair gyda'i ddynion, a hawliai barch cyffredinol. Yr oedd gwedd ei angladd yn profi hyn. Gadawodd ar ei ol weddw alarus. Boed amddiffyn y Tad Mawr drosti, yn nghyd a thros berthynasau ereill yr ymadawedig.
Notes:
Linked to
Red Cow Inn , Adpar