N.B. Some pubs do not appear on the maps as we do not have a definite location for them.
Publican shoots neighbour / Tafarnwr yn saethu cymydog
Source: Baner ac Amserau Cymru 16/08/1899
Date: 1899
Copyright: Type: Newspaper
Description: Transcript:ABERYSTWYTH. TAFARNWR YN SAETHU AT DYRFA. YN y Neuadd Drefol, yn Aberystwyth, ddydd Mawrth, cyhuddwyd Evan Evans, Farmer's Arms, Llanfihangel y Creuddyn, gan yr Arolygydd Phillips, o saethu William Morgan Wright, noson yr 2il o Fedi, gyda'r amcan o wneyd niwed corphorol iddo. Mewn eisteddiad blaenorol, cymmerwyd digon o dystiolaethau i gyfiawnhau i'r achos gael el ohirio. Cymmerwyd tystiolaeth Wright, yr hwn a ddywedodd iddo, ar y noson ddywededig, ddyfod i lawr i'r pentref yn nghwmni ei chwaer a'i chyfnither. Clywsant drwst yn y pentref; a phan aethant i lawr, gwelsant dyrfa y tu allan i'r Farmer's Arms. Aeth ef i'r lIythyrdy, lie yr oedd yn cysgu; ac yn mron gyda'i fod yn agor y drws, clywodd sŵn ergyd, a thelmlodd ryw ymdeimlad o frathiad yn ei fraich ddeheu. Trodd o gwmpas, a gwelodd fflachiad o dân yn ffenestr llofft y Farmer's Arms. Ni welodd Evans. Croesholwyd gan Mr. Hughes: 'A ydych yn credu fod y dlffynydd wedi ceisio eich saethu?'
Y tyst' Nis gallaf ddyweyd.'
Mr. Hughes :O, byddweh yn onest. A ydych yn meddwl fod Evans wedi ceisio eich lladd chwi. Dywedwch Ie neu nage.'
Y tyst: 'Nag oedd.'
Mr. Hughes Nid ydych yn meddwl ei fod yn ceisio eich saethu ?'
Y tyst :Nag oedd.'
Mr. Hughes: Nis gallech adnabod 25 o latheni oddi wrthych ?'
Y tyst 'Na allwn.'
Mr. Hughes: A ydych yn dyweyd fod Evans yn eich adnabod chwi o'r Farmer's Arms cyn saethu ?'
Y tyst Nis gallaf ddyweyd.'
Beth ydych yn ei gredu ?'
Y tyst' Y mae'n debyg el fod.'
Mr. Hughes: 'Nis gallech chwi adnabod neb 25 o latheni oddi wrthych, ac etto yr ydych yn meddwl y gallasai Evans?'
Y tyst Wel, efe a'm gwelodd yn myned i'm tŷ
Mr. Hughes: A ydych yn golygu dyweyd hyny.'
Y tyst: Ydwyf, gallasai yn eithaf rhwydd.'
Mr. Hughes: Gallasai weled rhywun ?'
Y tyst -'Gallasat.'
Mr. Hughes O'r goreu, ni a'i gadawn yn y fan yna.'
Rhoddodd Dr. Hughes, Llanilar, ddisgrifiad o'r archoll, yr hwn a ddywedai ei fod cyn gymmaint a physen fawr; a bod yr ergyd wedi myned trwy y cnawd oedd ar y fraich. Nid oedd yr archoll yn un peryglus. Eliza Morgan Wright, chwaer y tyst cyntaf, a gadarnhaodd dystiolaeth ei brawd. Pan waeddodd ei brawd ei fod wedi cael ei saethu, trodd, a gwelodd fflachiad odân yn ffenestr ganol y tafarndy, a gwelodd Evans yn eglur yn yr ystafell.
Margretta Powell, gwraig briod, a ddywedodd wrth y faingc fod Evans yn cadw ystŵr gyda rhyw ddyn y tu allan i'r ty oedd eisieu myned i'w ystabl. Aeth wedi hyny i'r tŷ, a daeth a llaw-ddryll gydag ef. Yna, clôdd y drws, gan adael ei fab y tu allan yn mysg y dyrfa; aeth i fyny y grisiau, agorodd y ffenestr ganol, a thaniodd. Nis gallai ddyweyd pa un a oedd Evans yn feddw at sobr; ac nis gallai ddyweyd chwalth pa un a oedd Lewis Powell, gyda'r hwn yr oedd yn cadw helynt, yn sobr. Lewis Powell, 19eg mlwydd oed, a roddodd ddlsgritiad o'i ymweliad a'r dafarn, ac o waith Evans yn gwrthod caniatau iddo fyned i'r ystabl. Gwelodd yr ergyd yn cael el thanio, a chlywodd Wright yn gwaeddi ei fod wedi ei saethu Taniwyd tair o ergydion. Yr oedd wedi cael wyth gwydryn o gwrw y noson hono. Wedl i dystiolaethau eraill gael en rhoddi ynghylch tanio, rhoddodd Yr Heddgeidwad Thomas ei dystiolaeth iddo ei gymmeryd i fyny Pan gyhyddwyd ef, dywedodd ei fod wedi tanio mewn hunan amddiffyniad, ac nad oedd wedi gwneyd hyn i ddim ond i ddychrynu y dyrfa. Nid oedd ganddo eisieu niweidio neb. Traddodwyd y cyhuddedig i sefyll el brawf yn y frawdlys chwarterol. Cymmerwyd meichiafaeth am ei ymddangosiad.
Notes:Linked to Y Ffarmers , Llanfihangel y Creuddyn, Aberystwyth, Ceredigion, Llanfihangel y Creuddyn (p)