Cymdeithasau Cyfeillgar yng Ngheredigion


Roedd clybiau neu gymdeithasau budd, a adwaenwyd fel Cymdeithasau Cyfeillgar, yn sefydliadau ffurfiol, o ddynion yn unig fel rheol, oedd yn cyfarfod unwaith y mis. Roedd o leiaf 73 o’r 200 o gymdeithasau Cyfeillgar hysbys yng Ngheredigion yn cyfarfod mewn tafarndy lle’r oedd eu harian yn cael eu cadw mewn blwch diogel a lle’r oeddent yn aml yn cynnal gwledd flynyddol. Roedd Cymdeithasau Cyfeillgar i Ferched a grwpiau llwyrymwrthodol yn cyfarfod mewn safleoedd didrwydded fel rheol.

Sefydlwyd Cymdeithasau Cyfeillgar am y tro cyntaf yn ystod yr 17eg ganrif. Daethant yn gyffredin erbyn diwedd y 18fed ganrif a ffurfiwyd sawl mil yn ystod ychydig ddegawdau cyntaf y 19eg ganrif. Bu rhai o’r rhain yn fyrhoedlog, tra parodd eraill i ganol yr 20fed ganrif.
Roeddent yn destun rheoliadau’r llywodraeth ar ôl 1793 (Deddf Rose), a ddiwygiwyd gan ddeddfau dilynol.
Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, ffurfiwyd rhai cymdeithasau Cyfeillgar cenedlaethol, fel Urdd Annibynnol yr Odyddion, y Temlwyr Da a’r Rachubiaid. Mae tipyn wedi’i ysgrifennu am y rhain, ac am eu seremonïau cyfrinachol a’u regalia amrywiol, ond gwyddwn lawer llai am y cymdeithasau bach, lleol.

Roedd amcanion sawl Cymdeithas Gyfeillgar yn debyg i rai’r Queen Adelaide Female Benefit Society (i ferched), a sefydlwyd yn Aberystwyth ym 1834. Mae’r rhagair i’r rheolau’n datgan:
Whereas it is laudable usage in this kingdom for well-disposed individuals to meet and incorporate themselves into Friendly Societies for the advancement of industry, benevolence, and true Christian charity; and the objects of this society are to collect before-hand a small Fund on Money, for the mutual support, in sickness and infirm old age, and towards the burial of each of the Members, and for the mutual assistance of each other. [Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ms 22739 ff. 42-8]


Yn ystod y 18fed ganrif, pan sefydlwyd nifer fawr o’r Cymdeithasau hyn yn y lle cyntaf, roedd yr aelodau’n cyfarfod bob 4 wythnos ond fel rheol, newidiwyd hyn i bob mis calendr. Yn y cyfarfodydd, roedden nhw’n talu eu ffioedd aelodaeth ac yn cymdeithasu. Ymddengys bod y rhai oedd yn cyfarfod mewn tafarndai neu mewn safleoedd trwyddedig eraill yn yfed llawer o alcohol yn ystod eu cyfarfodydd.

I ddechrau, 6d oedd y ffi aelodaeth i’w thalu ym mhob cyfarfod. Defnyddiwyd yr arian a godwyd i dalu swm bach i aelodau oedd yn methu gweithio, yn sgil salwch neu wendid; i dalu pensiwn i aelodau nad oedd yn gallu ennill bywoliaeth mwyach, ac i dalu perthynas tuag at gost angladd aelod ac angladd perthnasau agos. Pan oedd aelod yn marw, roedd disgwyl i’r holl aelodau eraill dalu swm bach ychwanegol i’r perthnasau a mynychu’r angladd. Yn ogystal, roedden nhw’n cyfrannu tuag at wledd flynyddol, a gynhaliwyd yn aml mewn tafarndy, ar ddechrau mis Ionawr bob blwyddyn lle talwyd gwestai, offeiriad Anglicanaidd yn aml, i siarad yno.

Deilliodd ffynhonnell incwm arall trwy ddirwyo aelodau oedd yn torri rheolau’r gymdeithas. Roedd disgwyl i’r aelodau ymddwyn yn dda yn ystod cyfarfodydd a pheidio â meddwi.

Cronnodd sawl cymdeithas symiau mawr o arian, yn rhannol oherwydd roedd cyfraniadau’r aelodau’n cronni dros eu bywyd gwaith cyfan. Gellid benthyca’r arian mewn amryw ffyrdd yn gyfnewid am ryw fath o ddiogelwch ar gyfradd llog da (fel rheol 3½ i 5%). Mae’n amlwg ei bod hi’n bwysig iawn cadw cofnodion ariannol da iawn o’r holl drafodion, a’r llyfrau cyfrifon, yn hytrach na llyfrau cofnodion y Cymdeithasau hyn, sydd wedi goroesi.