Roedd sawl math o le y gellid prynu diodydd alcoholig ohonynt. O 1828 ymlaen, roedd rhaid i’r rhain gael eu trwyddedu dan un neu un arall o’r nifer fawr o Ddeddfau Trwyddedu.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhannau ar:
● Drwyddedau
● Cofnodion trwyddedu
Mathau o safleoedd:
● Tafarndai
● Tafarndai clwm
● Tai cwrw, tai cwrw dihopys a siopau cwrw
● Tafarnau
● Tai tafarn
● Gwestai
● Clybiau
● Gorsafoedd Trenau
● Siopau diodydd
● Safleoedd didrwydded
● Tai jin
● Bragu yn y Cartref
● Trwyddedau Achlysurol
● Tafarnau Coffi
Darllen Pellach
Rhagarweiniad
Hwyrach fod y syniad hoffus fod llawer o bentrefi oes Fictoria wedi’u datblygu o gwmpas lôn pentref gydag eglwys, tafarn a siop gof wrth ei ochr wedi bod yn wir am rannau o Loegr, ond prin y gellid dod o hyd i’r rhain yng Nghymru. Er bod y safle hwn yn rhestru bron i 900 o safleoedd oedd â thrwydded i werthu alcohol yn y sir (mae llawer o dai cwrw a siopau diodydd heb eu henwi heb eu cynnwys eto), ymddengys yn debygol nad oedd byth mwy na rhyw 300 ar unrhyw adeg unigol (mwy na thebyg y cafodd yr uchafswm nifer hwn ei gyflawni erbyn 1900) ac roedd llawer o bentrefi a chymunedau bychain yng Ngheredigion heb dafarn drwyddedig (er enghraifft, ym 1869, roedd 14 plwyf di-dafarn yng Ngheredigion (Wrexham and Denbighshire Advertiser, 25 Medi 1869). Mae’n debygol yr oedd llawer o bobl yn byw taith gerdded o dros awr i dafarn: roedd y rhan fwyaf yn byw’n llawer agosach at gapel; roedd rhyw 300 o’r rheiny hefyd ym 1900, ond bod y rheiny wedi’u dosbarthu’n fwy cyfartal.
Trwyddedau
Cynigiwyd nifer fawr iawn o Ddeddfau Seneddol yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif er mwyn rheoli gwerthiant alcohol ond nid pasiwyd pob un o’r rhain, yn rhannol am resymau gwleidyddol ac oherwydd bod y rhai a chanddynt fuddiant breintiedig, megis bragwyr, wedi gwrthwynebu.
O 1552, roedd rhaid i rywun oedd am werthu diodydd alcoholig wneud cais am drwydded gan y Llys Chwarter neu’r Sesiwn Fach. O 1617 ymlaen, roedd rhaid i’r sawl oedd yn rhedeg tai tafarn feddu ar drwydded hefyd. Ym 1828, newidiodd y Ddeddf Tafarnau newydd, a ddilynwyd gan y Ddeddf Tai Cwrw 1830, y system yn llwyr, gan greu rheoliadau llacach i’r rhai oedd yn gwneud cais am drwydded a arweiniodd at gynnydd sylweddol yn niferoedd y safleoedd trwyddedig oedd yn gwerthu alcohol. O ganlyniad, daeth yfed mewn tafarndai’n fwyfwy poblogaidd yn ystod y 19eg ganrif.
Roedd gan dafarnau'r hawl i werthu pob gwirod alcoholig ar ôl 1830; ond dim ond cwrw allai tai cwrw eu gwerthu.
Dyluniwyd Deddf Tai Cwrw 1830 i gynyddu’r gystadleuaeth rhwng bragdai, gostwng pris cwrw ac felly lleihau swm y diodydd alcoholig cryfach oedd yn cael eu hyfed, fel jin. Roedd yn galluogi unrhyw un i fragu a gwerthu cwrw o dalu trwydded oedd yn costio dwy gini. Agorodd llawer o dai cwrw, tafarndai a bragdai newydd o ganlyniad ond ni chofnodwyd y trwyddedau’n fanwl.
Arweiniodd hyn at gynnydd amlwg mewn meddwdod a sefydlu nifer fawr o fudiadau Dirwestol. (Yr un cyntaf adnabyddus yng Nghymru oedd Caergybi ym 1832).
Deddf Tai Cwrw 1840
● roedd yn gofyn i ddalwyr trwydded berchen ar y safleoedd lle’r oeddent yn gwerthu cwrw a phreswylio ynddynt
● roedd yn gofyn i dafarndai gau am ganol nos mewn trefi ac am 11pm mewn ardaloedd gwledig.
● roedd yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar oriau trwyddedu mwy cyfyngedig
● roedd yn galluogi bwrdeistrefi i fod yn gwbl ‘sych’ h.y. gwahardd gwerthiant pob alcohol.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, gallai’r rhai oedd yn gwrthwynebu rhoi trwyddedau fynychu’r cyfarfodydd.
1893
Licencing Committee of the County of Cardigan under the Licensing Act, 1872.
NOTICE IS HEREBY GIVEN that a meeting of the Licensing Committee of Justices appointed for the County of Cardigan will be held at the Town Hall in the town of Lampeter in the said County on Thursday, the 19th day of October instant immediately after the termination of the Quarter Sessions, when all persons having any business thereat either as applying for or objecting to the confirmation of any new license are required to attend.
Dated the 3rd day of October, 1893. F. R. ROBERTS, Deputy Clerk of the Peace.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 6 Hydref 1893
Deddf 1904
Dygwyd gostyngiad yn nifer y tafarndai gan Ddeddf 1904 a’r Deddfau dilynol. Caewyd rhyw draean o dafarndai Prydain rhwng 1905 a’r 1930au.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914- 1918), arweiniodd prinder mewn deunyddiau wedi’u mewnforio at ddibenion bragu; ffafriaeth o blaid tyfu bwyd yn hytrach na chynhwysion ar gyfer diodydd; cynnydd mewn treth ar alcohol a gostyngiad mewn oriau agor at lai o feddwdod.
Alcohol restrictions (Wales)
Dechrau’r 21ain ganrif
Daeth Deddf Trwyddedu 2003 â’r holl ddeddfwriaeth gynharach at ei gilydd, ac roedd yn cynnwys safleoedd oedd yn gwerthu alcohol nad oedd wedi’u cwmpasu gan ddeddfwriaeth yn flaenorol (megis digwyddiadau swyddogol mewn adeiladau cyhoeddus). Daeth y ddeddf hon i rym ym mis Tachwedd 2005.
Y mathau gwahannol o drwyddedau
Evening Express 24/07/1905
Cofnodion trwyddedu
Rhoddodd Ynadon (yn y Llys Chwarter neu’r Sesiwn Fach) ac yn nes ymlaen, Awdurdodau Lleol, drwyddedau. Nid yw’r rhan fwyaf o’r cofnodion trwyddedu gwreiddiol wedi goroesi, ond weithiau roeddent yn cael eu hadrodd arnynt, yn llawn neu’n gryno, mewn papurau newydd lleol.
Mae tair set o restrau trwyddedau ar gyfer Sir Aberteifi wedi goroesi: y rhai ar gyfer Aberaeron 1836-1850 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ms 20887; 13867; 13868)
Ilar 1889-1924 (Archifdy Ceredigion, TPS/LLI/1/7)
Llandysul Archifdy Ceredigion,
Esiampl o adroddiad papur newydd:
CARDIGAN ANNUAL LICENSING DAY
A Special Petty Sessions was held in the Town-hall, in this town, on Tuesday last, for the purpose of granting licenses to the keepers of beer-shops and publicans. A great many beer-shop licenses were granted.
The Welshman, 31st August 1849
Dogfennau Trwydded
Ymddengys mai ychydig iawn o ddogfennau trwyddedau gwreiddiol sydd wedi goroesi. Un esiampl yw’r drwydded cwrw, seidr a pherai, rhif 469 ar gyfer y Feathers Public House, Aberystwyth, 1831. (Archifdy Ceredigion, ADX/524 and 443). Un arall yw ar gyfer Evan Richards o’r Gilfach Arms a’r Red Lion, y ddau ym Mydroilyn, Llanarth, ar gyfer 1871 a 1872 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Evan Richards o Nanthenfoel, 8-9)
MATHAU O SAFLEOEDD
Er bod gan amryw fathau o safleoedd ddiffiniadau penodol yn wreiddiol, cyfeirir at lawer erbyn hyn fel tafarndai. Roedd rhai tafarndai mewn safleoedd a drawsnewidiwyd at ddibenion gwerthu ac yfed alcohol, tra’r oedd y lleill ddim mwy nag ystafell mewn bwthyn.
Tafarndai a thafarnau
Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ar gyfer y boblogaeth leol, ac wedi’u cyfyngu i werthu cwrw a chwrw dihopys. Fel rheol, nid oeddent yn gwerthu bwyd tan yr 20fed ganrif, ac yn aml nid tan ddiwedd yr 20fed ganrif.
Hyd nes i’r bragdai mawr sefydlu system ddosbarthu ddibynadwy, roedd y cwrw’n cael ei fragu’n lleol gan mwyaf a’i werthu o gasgenni gan ddefnyddio jygiau i drosglwyddo’r cwrw i wydrau neu gwpanau.
Er bod tafarndai, yn eu hanfod, er mwyn i bobl leol gymdeithasu, roedd gan rai swyddogaethau eraill, er enghraifft, weithiau dyma lle’r oedd cwmnïau lleol yn talu eu gweithlu. Yn ogystal, roedd tafarndai’n cynyddu eu rolau yn y gymuned leol er mwyn atal y lobi ddirwestol rhag eu cau nhw. Fodd bynnag, dan Ddeddf 1843, gallai tafarndai ond ddarparu adloniant os oedd ganddynt drwydded theatr ac nid oedd gan theatrau’r hawl i werthu alcohol.
Tafarndai Clwm
Gwellodd ochr fewnol ac allanol y tafarndai o ganlyniad i gystadleuaeth rhwng niferoedd cynyddol o dafarndai rhydd (oedd yn gwerthu cwrw unrhyw fragwr) a thafarndai clwm oedd yn eiddo i fragdai oedd yn adeiladu safleoedd newydd neu’n gwella’r hen rai er mwyn cynyddu gwerthiant eu cynhyrchion eu hunain. Yn ystod yr 20fed ganrif, roedd 90% o dafarndai Prydain ynghlwm â bragdai.
Tai Cwrw / Siopau Cwrw
Galluogodd Deddf Cwrw 1830 i unrhyw un wneud cais am drwydded i werthu cwrw am daliad o 2 gini. Cânt eu marcio ar fapiau’r Arolwg Ordnans fel ‘B.H’ (Beer House) Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r rhain enw, ond cawsant eu rhestru mewn cyfeiriaduron masnach.
Mae rhai defnyddiau o’r term ‘siopau cwrw’ mewn amryw gyhoeddiadau yn gyffredinol ddifrïol, gan gyfeirio at ddynion siopau cwrw a gwleidyddiaeth siop gwrw. Cyhuddwyd siopau cwrw o fod yn ddidrwydded neu am werthu cwrw y tu allan i oriau, ac nad oeddent yn defnyddio mesurau priodol.
Tafarnau
Roedd tafarnau (taverns) yn wahanol i dafarndai (pubs) am eu bod yn cynnig bwyd da, gwinoedd a phorthor ac roedd llawer yn darparu llety, ond nid oedd ganddynt drwydded i wneud hynny, fel ag yr oedd gan dai tafarn (inns).
Tai tafarn
Roedd modd dod o hyd i’r rhain ar brif ffyrdd (oedd yn cael eu hadnabod fel ffyrdd tyrpeg oedd â cherrig milltir arnynt hefyd yn nodi pellteroedd rhwng y prif drefi) gan mwyaf ar hyd a lled Prydain.
Yn y gorffennol, bu rhaid iddynt ddarparu llety i deithwyr ar gais, ond nid oedd ganddynt hawl i werthu diodydd a phrydau achlysurol i bobl nad oeddent yn aros y nos.
Agorwyd y rhan fwyaf o dai tafarn er mwyn cynnig lluniaeth a llety i deithwyr swyddogol a masnachol, ac o ganlyniad, daeth tai tafarn yn lle y gallai pobl leol gwrdd â masnachwyr ac roedd rhai gwestywyr yn ymddwyn fel bancwyr.
Yn fuan, byddent yn cael eu llenwi gan bobl oedd yn teithio trwy Gymru o’r 1770au ymlaen. At ei gilydd, roedd tai tafarn yn denu’r teithwyr mwyaf cefnog gan gynnwys y bonedd oedd heb unlle arall i aros ar eu teithiau.
Fel rheol, roedd rhyw 15-20 milltir rhwng tai tafarn, oedd yn galluogi’r teithwyr a chanddynt drafnidiaeth dda i gael brecwast mewn un, cinio yn yr un nesaf a swper yn y trydydd. Gallai twristiaid oedd yn cerdded fynd o un i’r llall yn gysurus mewn un diwrnod, ond nid oedd sicrwydd y byddai gwely gwag a glân iddynt ar ddiwedd diwrnod o deithio.
Arferai’r tai tafarn gael eu rhedeg gan bobl a allai siarad Saesneg – dim ond Cymraeg oedd mwyafrif pobl Cymru’n ei siarad, ac ni allai mwyafrif y teithwyr a’r twristiaid fedru’r Gymraeg.
Wrth i’r ffyrdd tyrpeg gael eu gwella, aeth teithio’n haws ac yn fwy poblogaidd, gan greu galw am dai tafarn ychwanegol. Agorwyd rhai ohonynt mewn lleoliadau newydd, ynysig ar adegau i leihau’r pellter o un tŷ tafarn i’r nesaf.
Amrywiodd safon y tai tafarn hyn i raddau aruthrol, ond at ei gilydd gwellon nhw o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen pan ddarparodd nifer fawr o dwristiaid incwm tymhorol, da, a chwyddwyd ar adegau eraill o’r flwyddyn gan y Beirniaid a’u gosgordd wrth ymweld â threfi ar gyfer y brawdlysoedd; gan werthwyr teithiol; gan swyddogion llywodraeth ganolog a lleol; gan yr uchelwyr oedd yn teithio i’r trefi ac oddi wrthynt lle’r oeddent yn cymdeithasu ac yn gwneud busnes; gan ffermwyr llwyddiannus ar ddiwrnodau marchnad a chan esgobion oedd yn teithio’u hesgobaethau.
Disgrifiwyd y rhan fwyaf o’r tai tafarn hyn yng Nghymru yn gryno gan rai o’r twristiaid; yn aml caiff eu sylwadau eu lliwio gan ansawdd y bwyd a’r gwely a ddarparwyd ar y diwrnod roedden nhw yno, a mwy na thebyg gan ba mor flinedig, oer a gwlyb oedden nhw pan gyrhaeddon nhw. Nid yw eu hadroddiadau’n ddibynadwy bob amser.
Lle cofnodwyd cost aros mewn tai tafarn, mae’n normal yn aml canfod bod y swm a wariwyd ar ddiodydd alcoholig yn fwy na’r rhan fwyaf o gategorïau gwariant eraill a helpodd y landlord i wneud elw da. Dyna pam yr anogwyd Catherine Hutton a’i mam i adael y Talbot yn Aberystwyth ym 1787, am ‘beidio ag yfed digon o win’ gyda’u prydau bwyd.
Gwestai
Daeth rhai tai tafarn yn adnabyddus fel gwestai o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen, ac adeiladwyd rhai’n arbennig ar gyfer twristiaid ac i’r rhai oedd yn aros mewn cyrchfannau er mwyn gwella’u hiechyd. Codwyd sawl gwesty bach ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd i ddarparu llety rhad i deithwyr a phobl ar eu gwyliau.
Clybiau
Cafodd clybiau preifat eu galluogi i ddarparu diodydd alcoholig i’w haelodau. Roedden nhw’n destun cyfraith, ond roedd eu horiau trwyddedu yn aml yn hwy na thafarndai. Er enghraifft, yn dilyn y Ddeddf a waharddodd werthiant Gwirodydd Meddwol yng Nghymru ar y Sul, a basiwyd ym 1881, roedd hi’n bosibl i aelodau brynu diodydd mewn clybiau ar y Suliau.
Gorsafoedd Trenau
Yn aml iawn, roedd gan orsafoedd trenau fariau lle gwerthwyd alcohol yn benodol i deithwyr. Galluogodd Deddf Cau ar y Sul 1881 i unrhyw un oedd wedi teithio dros dair milltir i brynu alcohol mewn safle trwyddedig ar y Sul. Mae’n debyg bod hyn wedi arwain at niferoedd mawr o bobl yn teithio o Aberystwyth i Borth am eu diod dydd Sul, ond dim ond am dair blynedd; wedi hynny, bu rhaid i deithwyr brofi eu bod yn teithio am reswm ar wahân i brynu diod.
1880
One excellent result of the new licensing law is that several of the refreshment rooms on the Cambrian Railways have been closed. This is an almost unmixed good. The refreshments that ought to have been provided could not be obtained in a reasonable time, or at reasonable prices. At places like Borth and Aberystwyth the refreshments did not include what in these days should be included in that word. The increased cost of the licence has caused them to be shut up. When they are next opened, we hope it will be for the sale of tea, coffee, and other non-intoxicating drinks. Neither Borth nor Aberystwyth is in want of an additional beer-shop. The Cambrian Railways would do well if they converted the late refreshment room at Aberystwyth into the booking office, which is now very inconveniently situated.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 15th October 1880
Siopau Diodydd
Fel rheol, siopau oedd â thrwydded i werthu diodydd alcoholig i’w hyfed oddi ar y safle oedd y rhain. Dim ond ambell i siop groser a gwerthwr gwin a gwirodydd oedd â’r fath drwyddedau yn y 19eg ganrif, ond yn ystod yr 20fed ganrif, gwnaeth mwy a mwy o siopau gais i fod yn siopau diodydd. I ddechrau, arbenigodd rhai siopau mewn gwinoedd a gwirodydd, ond yn raddol, gwerthodd siopau bwyd ystod o nwyddau alcoholig, ond nid oedd ganddynt hawl i wneud hynny ar adegau penodol o’r dydd, gan arwain at orfod cau ambell i eil tra’r oedd gweddill y siop ar agor.
Safleoedd Di-drwydded
Hyd yma, ychydig iawn o gofnodion o safleoedd trwyddedig a ganfuwyd wrth law neu’n agos at y nifer fawr o fwyngloddiau plwm yn y sir. Mae’n bosibl fod y mwyngloddwyr wedi yfed mewn tafarnau anghyfreithlon ond byddai’r rhain ond yn ymddangos mewn cofnodion swyddogol petai’r trefnwyr wedi’u herlyn dan amryw ddeddfau Seneddol.
Tai jin
Erbyn canol y 18fed ganrif, daeth tai jin yn boblogaidd iawn oherwydd roedd jin yn rhad iawn, felly rhoddwyd treth amhoblogaidd iawn ar jin ond cafodd ei dirymu’n fuan. Nid oes tystiolaeth fod unrhyw dai jin wedi bodoli yng Ngheredigion ond o ganol y 19eg ganrif ymlaen, roedd grwpiau Dirwestol lleol yn dal i ymgyrchu yn erbyn jin.
Daeth bil llaw bach a argraffwyd rhywbryd rhwng 1820 a 1847 gan Esther Williams, 6 Stryd y Bont, Aberystwyth, sy’n cynnwys apêl ‘I’r Dosbarth Gweithiol’ gan ‘Cyfaill i’ch mwynhad llwyr chi’
Apeliodd yr awdur am sobrwydd llwyr am resymau moesol, corfforol ac economaidd. Byddai dau wydraid o jin y dydd am 1½ c y gwydraid, yn costio pedair punt, un ar ddeg swllt a thair ceiniog y flwyddyn. Yna, mae’r bil llaw’n rhestru pris amryw eitemau dillad i ddangos sut gellid gwario’r arian yn well. Mae’r gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. (David Jenkins, ‘Some Cardiganshire Broadsides’, Ceredigion, cyfrol 2, (1953), tud. 92)
Bragu yn y Cartref
Roedd bragu yn y cartref yn cyfrif am ryw hanner y cwrw oedd yn cael ei yfed ar ddechrau’r 19eg ganrif ond erbyn dechrau’r 20fed ganrif, cwympodd hyn i bron ddim.
Trwyddedau Dros Dro
Rhoddwyd Trwyddedau Dros Dro (Achlysurol) ar gyfer digwyddiadau arbennig fel ffeiriau, gornestau aredig ac arwerthiannau.
Mae enghraifft o Drwydded Dros Dro wedi goroesi:
Consent for an occasional licence
Beer and Spirits
on 21.11.1872 at Llanybyther fair
for Evan Richards, Red Lion, Mydroylyn
Duties payable each day
Licenced Victualler 2s 6d
Beer Retailer 1s
Wine retailer 1s
Tobacco dealer 4d
Nid arwyddwyd hon gan ynad, mwy na thebyg oherwydd bod ei gais wedi cyrraedd yn rhy hwyr.
(Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Evan Richards o Nanthenfoel, 10)
Trwyddedau Achlysurol
Enghraifft o Drwydded Achlysurol
Supt. John Lloyd said he wished to make an application to their Worships before they proceeded to grant licences. The application had reference to occasional licences at fairs. Last Saturday he attended Pontrhydfendigaid fair, where he noticed, a great deal of drunkenness, and in going round the fair he observed there were no fewer than seven owners of tents holding occasional licences. He really thought they were quite unnecessary. As it was in the discretion of the magistrates to grant those licences, he respectfully suggested that they would consider the advisability of with-holding them in the future. There were at the present time four licensed premises at Pontrhydfendigaid, and he considered that number to be quite sufficient to meet the requirements of persons attending the fairs. The practice of granting licences to occasional sellers of beer seemed to him to be unfair to the holders of annual licences. Major Phelp said that Mr Hughes brought the applicants to him, and said the licences were necessary. If, however, it were so decided, it should go forth to the public that the occasional licences would only be granted at the monthly petty sessions, when each case might be taken upon its merits. The Rev. O. Davies said the practice was no doubt a relic of an old custom, when the fair was held upon the hill, at Ffair Rhos. The magistrates then made a rule to grant occasional licences, for fairs, ploughing matches, and auctions, only at the monthly petty sessions.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 1 Medi 1876
Tafarnau Coffi
Cyflwynwyd coffi i Brydain ym 1650, Siocled o 1657 a The o 1660. Daeth y rhain yn ddiodydd poblogaidd yn syth, ond yr ymgyrchwyr Dirwestol anogodd y defnydd ohonynt, a hynny’n fwriadol.
LLANDYSUL. AGOR TAFARN GOFFI
On Tuesday, March I8th, Llandyssul fair day, a tea and coffee tavern was opened at Llandyssul, in two hired rooms. The Misses Lloyd, of Waunifor, Miss Lloyd, of Gilfachwen, with Mrs Jones, of Gellifaharen, waited on the guests, who numbered 200; while Mr. David Lloyd, of Gilfachvren, the Rev. Edward Lloyd, of Waunifor, and Master Harry Hall assisted in bringing in visitors, to whom they showed the utmost courtesy. The two last mentioned ladies have undertaken to collect subscriptions until it is seen whether the new venture will prove self-supporting.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 21 Mawrth 1879
Victoria Coffee Tavern, Cardigan, confectioner, was charged with having sold milk adulterated with twelve per cent water on November 10th. Fined £5 and costs.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 10 Rhagfyr 1897
Darllen pellach
I gael rhagor o wybodaeth am hanes tafarndai ym Mhrydain, gweler
Peter Haydon,
The English Pub: A History (1994); ailgyhoeddwyd fel
Beer and Britannia (2001) ac eto fel
An Inebriated History of Britain (2005 a 2006).