Mae’r safle hwn yn defnyddio Google maps sydd eisoes wedi marcio lleoliad rhai safleoedd tafarndai agored ar hyn o bryd.
Nid oedd mapiau cynnar yn gywir bob amser a phrin yr oeddent yn marcio tai tafarn oherwydd roedd y rhan fwyaf ohonynt mewn trefi (ac nid oedd lle i nodi pob un ohonynt). Ni chafodd tafarndai eu marcio oherwydd nid oeddent fel rheol yn darparu llety ond cafodd rhai eu marcio os oeddent ar eu pen eu hunain (ac felly o werth mawr i’r rhai oedd yn methu symud ymlaen i’r dref nesaf).
Mapiau cynnar
Mae’r rhan fwyaf o fapiau cynnar Ceredigion (ac eithrio mapiau ystadau) o’r 17eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif wedi’u chwilio am gyfeiriadau at dafarndai, ac mae rhannau perthnasol wedi’u huwchlwytho i’r wefan hon a’u cysylltu â’r cofnodion ar gyfer tafarndai (ond mae’n bosibl na chanfuwyd pob tafarndy wedi’u marcio).
Nid yw absenoldeb tŷ tafarn, tafarndy neu dŷ cwrw ar fap yn arwydd o ran a oedd ar agor neu ar gau ar adeg mapio neu ail-fapio’r map.
Mapiau degwm a dosbarthiadau.
Yn ystod y 19eg ganrif, newidiwyd y degymau (10fed) blynyddol o gynnyrch dyledus i’r eglwys gan bob ffermwr yn raddol i daliadau arian parod. Cyfrifwyd hwn yn bennaf yn y 1840au pan luniwyd mapiau manwl o bob cae ac y rhoddwyd rhestrau at ei gilydd o bob preswyliwr a pherchennog pob tir cynhyrchiol. Weithiau, mae tafarndai’n ymddangos ar y mapiau hyn, ond os oeddent ond yn cynnwys adeilad a gardd, nid oeddent yn atebol i dalu degymau. Yn ogystal, cafodd y rhan fwyaf o eiddo trefi eu heithrio o daliadau degwm. Sganiwyd yr holl blwyf sydd wedi goroesi
tithe maps for Wales. Mae’n bosibl edrych ar y mapiau, a ail-ffurfiwyd yn ddigidol i gydymffurfio â mapiau modern, ac edrych arnyn nhw ochr yn ochr â map modern 1:10,000 (6 modfedd) neu edrych arnyn nhw fel troshaenau, gyda dewis i wneud un map neu fap arall yn fwy amlwg.
Mae gan rai plwyfi fapiau a rhestrau degwm cynharach, e.e.
Admeasurments and Valuation of the Parishes of Llanarth and Llanilar in the County of Cardigan. The Tithes of which belong to the See of St David. By William Couling, Brecon, 1814 and 1815, Ceredigion Archives, AXD/32, (with accompanying maps ADX176 [also by William Couling], 1814-1816.
Mapiau Arolwg Ordnans
Ni wnaeth mapiau’r Arolwg Ordnans nodi pob tŷ tafarn, tafarndy (wedi’i farcio’n P.H. ar fapiau’r Arolwg Ordnans) neu Dai Cwrw (B.H.), yn enwedig mewn ardaloedd trefol, ond fe wnaethant nodi ac enwi sawl un mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig ar y mapiau graddfa fawr (1:2,500 (25 modfedd); mae’r mapiau graddfa 1:500 (50 modfedd) yn bodoli ar gyfer Aberystwyth yn unig).
Mewn rhai achosion, lle gwyddwn fod dau dafarndy cymdogol wedi bod ar agor adeg paratoi’r map, mae un wedi’i marcio a’i enwi, ac mae’r llall wedi’i nodi’n syml fel ‘Inn’ neu ‘P.H.’ neu ddim o gwbl. Nid yw’n hysbys pa feini prawf ddefnyddiodd yr Arolwg Ordnans i wahaniaethu rhwng y rhain a chategorïau safleoedd trwyddedig eraill.
Chwiliwyd y mapiau canlynol am dafarndai a thai tafarn. Mae copïau caled yn LlGC ac Archifdy Ceredigion (mae setiau’r mapiau graddfa fwy yn anghyflawn).
6 modfedd (diwedd 1880au -1890au)
6 modfedd (dechrau’r 20fed ganrif)
25 modfedd (diwedd 1880au -1890au)
25 modfedd (dechrau’r 20fed ganrif)
50 modfedd (1880au a 1905), Aberystwyth yn unig
Mae llawer o fapiau rhyngweithiol bellach ar gael ar-lein gan gynnwys rhifynnau cynnar mapiau’r Arolwg Ordnans.
Old Maps
Cymru 1900
National Library of Scotland