Dywedir weithiau o drefi Prydain oes Fictoria fod pob yn ail adeilad yn gwerthu alcohol. Er enghraifft, pan gyrhaeddodd myfyriwr Aberystwyth yn y 1950au, dywedwyd wrtho fod 38 tafarn a 38 capel a gellid gweld capel o dafarndy bob amser; nid oedd hyn yn wir; ni fu erioed mwy nag 19 capel ac adeilad ysgol Sul yn y dref ond yn y 1950au, mae’n bosibl yr oedd rhwng 30 a 40 o dafarndai.
Mewn theori, gellid rhoi rhestr o bob safle trwyddedig at ei gilydd o astudiaeth fanwl o gofnodion y pwyllgor Trwyddedu, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain wedi goroesi.
Yng Ngheredigion, ymddengys mai’r rhestr fwyaf cyflawn yw’r Return of public houses in each Petty Sessional Division of the county of Cardigan, 1905 sy’n rhestru 306 o safleoedd gan gynnwys 14 safle siop diodydd, megis siopau. Mae bron yn sicr y paratowyd hon er mwyn lleihau (neu ddarostwng) nifer y tafarndai yn y sir, dan ddeddf 1904 (gweler rhestr 1905).
Rhestrwyd safleoedd trwyddedig (tafarndai, tai tafarn, gwestai, tai cwrw) mewn cyfeiriaduron Masnach, ond mwy na thebyg roedd y rhestrau hyn yn anghyflawn ac yn anghyson iawn – nid oeddent yn cynnwys pob safle trwyddedig, yn enwedig tai cwrw, ond roedden nhw ond yn cynnwys gwerthwyr gwinoedd a gwirodydd, a bragyddion ac weithiau roeddent yn cynnwys dim ond, neu’n bennaf y rheiny mewn trefi, ac nid yn y pentrefi. Mae’r ffigurau canlynol, yn enwedig y rhai am 1868, yn dangos pa mor anghyflawn oedd rhai o’r cyfeiriaduron o bosibl.
1835 | 200 (ynglŷn â)
|
1845 | 103 (Cyfeiriadur Masnach)
|
1850s | 175 (Cyfeiriaduron Masnach)
|
1868 | 256 (Cyfeiriadur Slater)
|
1868-9 | 446 (Papurau Seneddol - nifer o drwyddedau a ddyroddwyd gan Gyllid y Wlad)
|
1875 | 277 Cyfeiriadur Worrall
|
1891 | 137 (Cyfeiriadur Masnach)
|
1905 | 294 (Return of public houses in each Petty Sessional Division of the county of Cardigan. Dyma’r rhestr fwyaf dibynadwy o dafarndai, tai tafarn, a thai cwrw.)
|
1909 | 285 (Chief Constable’s Returns for the quarter, Cambrian News, 22 Hydref 1909)
|
1920 | 224 (Cyfeiriadur Masnach)
|
2016 | 144 Pubs Galore
|
O gymharu Cyfeiriadur Pigot ar gyfer tafarndai yn Aberaeron 1844 a’r rhestr swyddogol o dafarndai trwyddedig yn Aberaeron yn rhestrau’r Sesiwn Fach ar gyfer yr un flwyddyn, dengys mai ychydig o wahaniaeth sydd: roedd gan y ddau 12 cofnod. Roedd Pigot yn cynnwys y Black Lion yn Sgwâr Alban a allai fod wedi bod yn y broses o gau’r flwyddyn honno ond roedd yn eithrio’r Cambrian yr ymddengys ei fod wedi’i drwyddedu’n barhaus am y 1840au i gyd.
Mae rhestrau Sesiwn Fach Aberaeron ar gyfer 1836-1850, a oedd yn cwmpasu sawl plwyf o gwmpas Aberaeron, yn gyflawn ac eithrio ar gyfer 1840. Mae’r rhain yn dangos bod niferoedd y safleoedd trwyddedig wedi amrywio’n sylweddol yn ystod y 1830au (rhwng 48 ym 1836 a 28 ym 1839), ond ar ôl i’r ardal dan gyfrifoldeb Ustusiaid Aberaeron gynyddu’n sylweddol ym 1841, roedd nifer y safleoedd trwyddedig yn hofran o gwmpas 55 yn ystod y 1840au i gyd. Yn ystod y degawd hwn, ychydig dafarndai a gaewyd ac agorodd neu ail-agorodd rhai. Dim ond un cais newydd (y New Inn yn Llanfihangel Ystrad) a wrthodwyd am fod digon o dafarndai yn yr ardal.
Mae’n anodd llwyr ddadansoddi cofnodion cynharach sesiwn Fach Aberaeron oherwydd roeddent yn cynnwys rhannau o blwyfi. Ar ôl 1841, roedd yr ardaloedd a gwmpaswyd gan yr Ustusiaid yn fwy rhesymol.
Mae dadansoddiad cymharol o gyfeiriadur Slater ym 1868 a Worrall ar gyfer 1875 yn dangos yn syml nad oedd nifer y tafarndai’n cynyddu. O’r 248 o dafarndai a restrwyd ym 1868, roedd rhyw 100 heb eu cynnwys yn rhestr 1875, sy’n awgrymu eu bod wedi cau, wedi’u hailenwi neu heb eu cynnwys yn y rhestr am ryw reswm. Nid oedd 130 (dros draean) o’r tafarndai oedd ar restr 1875 ar restr 1868, sy’n awgrymu eu bod yn newydd. Awgryma hyn fod trosiant mawr mewn trwyddedau tafarndai. Fodd bynnag, cafwyd rhywfaint o barhad: roedd gan 92 o’r tafarndai yn rhestr 1875 yr un dalwyr trwydded â 1868, ac o’r gweddill a ymddangosodd yn y ddwy restr, roedd gan lawer ym 1875 ddalwyr trwydded o’r un enw teuluol neu enw cyntaf ag yr oedd ganddynt ym 1868, sy’n awgrymu bod y trwyddedau wedi’u trosglwyddo i berthynas neu fod daliwr trwydded benywaidd wedi priodi neu ailbriodi. Mae’r gwahaniaethau hyn yn dangos yn glir fod y rhestr cyfeiriadur masnach wedi’u diwygio, a heb eu copïo’n syml o gyfeiriaduron cynharach.