Mae hwn yn cynnwys rhannau ar:
Rhagarweiniad
Enwau Cymraeg / Saesneg
Dyblygu enwau
‘Hen’ a ‘Newydd’
Enwau tafarndai (wedi’u categoreiddio dan y penawdau canlynol:)
Tirfeddianwyr
Anifeiliaid
Adar
Planhigion
Symbolau Crefyddol
Lleoedd
Ardal
Enwau adeiladau
Swyddi
Pobl
Cychod
Rheilffordd
Y Teulu Brenhinol
Digwyddiadau
Amrywiol
Enwau dwbl
Enwau trebl
Eraill
Pasiwyd deddf yn ystod teyrnasiad Richard II a fynnodd fod tai tafarn a thafarndai’n arddangos arwydd (neu ‘arfbais’) a oedd yn dod yn enw i’r adeilad. Roedd gan y rhan fwyaf o dai tafarn, tafarnau a thafarndai enwau swyddogol, ond nid oedd gan y rhan fwyaf o dai cwrw, ond mwy na thebyg roedd ganddynt enwau lleol poblogaidd.
Arwyddion tafarndai ym Mhrydain
Enwau Cymraeg / Saesneg
Yn wreiddiol, roedd gan y rhan fwyaf o safleoedd trwyddedig yng Nghymru enwau Saesneg, ond mae’n bosibl iddynt gael eu hadnabod gan enwau Cymraeg yn lleol. Mae sawl esboniad am y defnydd cyffredinol o enwau Saesneg am Safleoedd Trwyddedig yng Nghymru:
● Roedd rhaid i safleoedd trwyddedig gael eu trwyddedu a Saesneg oedd iaith y gyfraith.
● Hwyrach y byddai teithwyr nad oeddent yn medru’r Gymraeg ac a oedd angen defnyddio safleoedd trwyddedig at ddibenion lluniaeth a llety wedi teimlo’n fwy hyderus ynghylch mynd i mewn i dŷ tafarn ag enw Saesneg.
Mae arolygon degwm a mapiau graddfa fawr cynnar eraill sy’n cofnodi enwau caeau wedi dangos mai bron dim ond yr enwau Saesneg sy’n ymddangos arnynt yw enwau tafarndai neu hen enwau neu enwau posibl am dafarndai.
Ymddengys mai ychydig iawn o dafarndai oedd ag enwau Cymraeg yn wreiddiol Cnwcylili Arms (ger Ceinewydd).
Yn ogystal, ceir nifer o dafarndai sydd bellach yn cael eu hadnabod fel Tafarn wedi’i ddilyn gan air disgrifiadol, lle neu enw personol e.e. Tafarn Bach, Tafarn Maria, Tafarn y Bont, Tafarn y Gors. Efallai y bu’r rhain yn enw gwreiddiol neu’n enw lleol ar gyfer rhai o’r tafarndai hyn, ond mewn rhai achosion, maen nhw bellach wedi disodli enw Saesneg. Mae gan ddau gymysgedd o Gymraeg a Saesneg: Tafarndy Inn, Y Ffarmers
Tafarndai sydd wedi cael enwau Cymraeg. Sylwch fod y rhan fwyaf yn dechrau gyda Gwesty.
Mae’n ddiddorol nodi mai ychydig iawn o dai tafarn neu dafarndai sydd wedi’u henwi ar ôl themâu Cymreig. Nid oedd tafarndai Red Dragon yng Ngheredigion ond ceir Druid Inn a Harp Inn.
Dyblygu enwau
Mewn achosion prin iawn, roedd tafarndai gyda’r un enw yn yr un lle ar yr un pryd – gellir cadarnhau hyn trwy wirio rhestrau cyhoeddedig fel cyfeiriaduron masnach a rhestr 1905 o safleoedd trwyddedig.
Mewn achosion eraill, gallai tafarndy fod wedi cau a’r enw wedi’i ailddefnyddio ar gyfer un newydd. Mae’n bosibl hefyd fod rhai o’r cofnodion mewn dogfennau a rhestrau gwreiddiol amrywiol yn anghywir, neu eu bod wedi cael cyfeiriad gwahanol i’r un sydd ar ffynonellau eraill (mae hyn yn digwydd yn benodol pan fydd tafarndy ar gornel dwy stryd).
‘Hen’ a ‘Newydd’
Mewn rhai achosion, rhoddwyd y rhagenw ‘Newydd’ neu ‘Hen’ i enw tafarndy, yn ôl pob tebyg er mwyn ei wahaniaethu o dafarndy gerllaw gyda’r un enw.
Yn aml, gellir dod o hyd i dai tafarn o’r enw ‘New Inn’ ar brif ffyrdd rhwng trefi lle crëwyd cyfleusterau newydd i deithwyr. Daeth yr enw New Inn hefyd yn enw ar gyfer y lle y cafodd ei adeiladu arno mewn o leiaf un lle yng Ngheredigion.
TIRFEDDIANWYR
Enwyd rhai tai tafarn a thafarndai ar ôl arfbais tirfeddianwyr amlwg.
Pryse o Gogerddan
Ymddangosodd Llew Du ar arfbais teulu’r Pryse o Gogerddan a oedd yn berchen ar sawl mil erw o dir yng Ngheredigion, a’r rheiny yn y gogledd yn bennaf. Roedden nhw’n berchen ar dir yn ardal gaerog flaenorol Aberystwyth, a chredasant fod ganddynt hawliau dros reolaeth y dref. Mae sawl tafarndy o’r enw’r Gogerddan Arms yng Ngheredigion. Ym mhentref Llanbadarn Fawr, mae dau dafarndy gyferbyn y ffordd â’i gilydd, enw un yw’r Black Lion a’r llall yw Gogerddan Arms.
Webley Arms. Mae’r enw hwn yn gysylltiedig â theulu Pryse Gogerddan.
Powells o Nanteos
Talbot Inn (Aberystwyth a Thregaron)
Nanteos Arms
Johnes o Hafod
Hafod Arms (ym Mhontarfynach, ger Hafod)
Ieirll Lisburne, y teulu Vaughan o Drawscoed yn wreiddiol.
Lisburne Arms
teulu Gwynne o Aberaeron
Roedden nhw’n berchen ar Ystâd Monachty, ger Aberaeron
Monachty Arms.
Ystadau Eraill
Highmead Arms